Lyrics

Un foment, dyna’r oll
Gymerodd I droi nol
A finne wedi meddwl swni’n rhydd
Creu byd bach yn fy mhen
Ond wir does gen ti’m clem
Pa fath o fyd, sydd mond yn gudd drachefn
Gwbo ‘mod i isho tyfu a just deu’ ‘tha ti
Ond ma’n anodd pan mae’r celwydd di bodoli’n hir
Pe bawn i’n rhydd
Sa ti’n gweld rhyw ddydd
Mai o dan y pridd mae’r geiriau’n deud y gwir
So eto, dyma fi
Bron iawn a dal fy nhir
Mor agos oedd y geiriau, arf y myw
Bob tro dwi ar fin deud
Amheuaeth sydd yn gwneud ei ffordd trwy fy ngwythiennau at y llyw
Gwbo ‘mod i isho tyfu a just deu’ ‘tha ti
Ond ma’n anodd pan mae’r celwydd di bodoli’n hir
Pe bawn i’n rhydd
Sa ti’n gweld rhyw ddydd
Mai o dan y pridd mae’r geiriau’n deud y gwir
Ddim yn siwr pryd ddaw yr amser
Bodlon fyddai tan y pryd
Adeiladu ar yr hyder
Ryw ddydd nei di weld fi i gyd
Written by: Mared
instagramSharePathic_arrow_out