Credits
KOMPOSITION UND LIEDTEXT
Barry Jones
Songwriter:in
Lyrics
Wel dwi hanner ffordd i uffern
A hanner ffordd i'r nef
Efo un droed ar y sbardun
A un droed yn y bedd
Ma' pob dydd sy'n llusgo heibio
Yn g'neud o wysg ei din
A pob eiliad bron yn teimlo'n rong
Heb gwmni potel win
Drwy'r amheuon a'r dadleuon
Y brad o gair fy nyw
Drwy'r gwynt a'r glaw a phopeth ddaw
Drwy hyn oll - dwi'n cael modd i fyw
Dwi'n chwifio fflag cyfiawnder
O'r seilam ar y bryn
A crio mewn i'n pinot noir
Wrth gwyno bod hi'n grim
Yn mynnu cydraddoldeb
Taflu'n sbwriel dros y clawdd
A phwyntio bys o flaen y llys
Tra'n deud fod byw yn hawdd
Drwy'r amheuon a'r dadleuon
Y brad o gair fy nyw
Drwy'r gwynt a'r glaw a phopeth ddaw
Drwy hyn oll - dwi'n cael modd i fyw
Dwi'n creu ddim byd ond trafferth
Dwi'n creu ddim byd ond poen
Dwi dda i'm byd - ond ar hyn o bryd
Dwi'n hapus yn fy nghroen
Drwy'r amheuon a'r dadleuon
Y brad o gair fy nyw
Drwy'r gwynt a'r glaw a phopeth ddaw
Drwy hyn oll - dwi'n cael modd i fyw
Written by: Barry Jones