Credits
AUSFÜHRENDE KÜNSTLER:INNEN
Mellt
Künstler:in
Ellis Walker
Bassgitarre
Glyn Morgan Rhys-James
E-Gitarre
Jacob Alastair Glyn Hodges
Schlagzeug
KOMPOSITION UND LIEDTEXT
Ellis Walker
Songwriter:in
Glyn Morgan Rhys-James
Songwriter:in
Jacob Hodges
Songwriter:in
PRODUKTION UND TECHNIK
Mellt
Produzent:in
Lyrics
Methu credu be' ddaeth 'mlaen ar y teledu
Mae'n edrych fel newyddion drwg eto eleni
Mae'r rhagolygon yn rhybuddio tywydd garw
Ond ar y strydoedd maen nhw'n gweiddi, maen nhw'n galw
Maen nhw'n dweud bod gan bawb hawl i'w farn
Wel os felly, dyma'n ngheiniog i
Cadwch lygad am y bennawd diweddaraf
Mae'n ddiwrnod arall ar y ddaear
Ble does neb ar ôl
I ganu'r hen alawon
Fel atsain o'r gorffennol
Ond mae rhywbeth yn wahanol
Paid ti meiddio sbwylio'r diweddglo
Fi dal yn gwylio
Paid ti meiddio sbwylio'r diweddglo
Ie fi dal yn gwylio
Ie fi dal yn gwylio
Does dim synnu bod ti methu penderfynu
Pan ti'n boddi mewn hysbysebu
Gwastraffu amser ar fideos gwirion
Ond mae mor anodd peidio gwylio
Mae babis Bronglais yn colli ei llais
O'r Ysgol Gymraeg i Lwyfan y Maes
Does dim synnu bod e'n anodd anwybyddu
Y teclyn yn dy law sy'n gwrando ar ti nawr
Paid ti meiddio sbwylio'r diweddglo
Fi dal yn gwylio
Paid ti meiddio sbwylio'r diweddglo
Ie fi dal yn gwylio
Ie fi dal yn
Na does neb ar ôl
I ganu'r hen alawon
Fel atsain o'r gorffennol
Ond mae rhywbeth yn wahanol
Ie mae rhywbeth yn wahanol
Ie mae rhywbeth yn wahanol
Paid ti meiddio sbwylio'r diweddglo
Fi dal yn gwylio
Paid ti meiddio sbwylio'r diweddglo
Ie fi dal yn gwylio
Pam ti gorfod sbwylio'r diweddglo?
O'n i dal yn gwylio
Pam ti gorfod sbwylio'r diweddglo?
Pan fi dal yn gwylio
O'n i dal yn gwylio
Pan fi dal yn gwylio
Ie fi dal yn gwylio
Written by: Ellis Walker, Glyn Morgan Rhys-James, Jacob Alastair Glyn Hodges