Lyrics

Pe bawn i'n gallu dweud wrth Dad-cu
Bod na ddynion wedi cerdded ar y lleuad
Byddai'n anodd ganddo gredu
Fod dyn wedi medru mynd mor bell
Mor bell
Ond dyna ni, mae'n rhyfedd o fyd
A phe bawn i'n gallu dweud wrth Mam-gu
Bod na sêr heibio'r sêr, yn ôl ein gwyddonwyr ni
Mi fyddai'n anodd ganddi gredu
Fod dyn wedi medru gweld mor bell
Mor bell
Ond dyna ni, mae'n rhyfedd o fyd
Ond o, nid fel na fu hi
Na, roedd pethau yn well bryd hynny
Ond efallai na fi sy'n hen-ffasiwn
Un seren
Un seren
Dim ond un seren
Oedd yn bwysig i ni
Dim ond un seren
Fry uwch Bethle'm
Dim ond un seren
Oedd yn bwysig i ni
A'r Nadolig: ma'n ddrud, ma'n drafferth
Na'r Nadolig: mae'n em, mae'n brydferth
Ac mae'n anodd gen i gredu
Fod dyn wedi medru anghofio yn llwyr
Prydferthwch, rhyfeddod yr ŵyl
Achos o, nid fel na fu hi
Na, roedd pethau yn well bryd hynny
Neu efallai ma fi sy'n hen-ffasiwn
Ond dim ond un seren
Un seren
Dim ond un seren
Oedd yn bwysig i ni
Dim ond un seren
Fry uwch Bethl'em
Dim ond un seren
A gymrodd ei bryd
Dim ond un seren
Un seren
Dim ond un seren
Oedd yn bwysig i ni
Dim ond un seren
Fry uwch Bethl'em
Dim ond un seren
Oedd yn bwysig i ni
Written by: Delwyn Siôn
instagramSharePathic_arrow_out